Gwenda Dixon - un o'r pedwar
Mae pensiynwr sydd wedi ei gyhuddo o ddwy lofruddiaeth ddwbwl wedi bod yn y carchar am ladrata arfog.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod John Cooper, 66, o Abergwaun, wedi cael dedfryd o garchar am 16 mlynedd yn 1998, ar ôl ei gael yn euog o 30 lladrad ac un lladrad treisgar.

Cafodd y pensiynwr ei ryddhau ar drwydded ddeng mlynedd ar ôl ei ddedfrydu, ond cafodd ei arestio eto o fewn misoedd ar gyhuddiadau o ladd pedwar o bobol yn Sir Benfro.

Yn y ddau achos, roedd dau berson wedi cael eu lladd yr un pryd ac roedden nhw ymhlith achosion llofruddiaeth enwoca’ Cymru ac wedi bod yn benbleth i’r heddlu.

‘Llofrudd oeraidd’

Wrth fanylu ar y cyhuddiadau yn erbyn dyn yr oedd yn ei alw’n “llofrudd oeraidd”,  fe roddodd yr erlynydd, Gerard Elias QC, fanylion am 11 trosedd – a’r cyfan o fewn saith milltir i gartref John Cooper.

Mae’r pensiynwr wedi ei gyhuddo o bedair llofruddiaeth:

  • Lladd y ffermwr a’r miliwnydd, Richard Thomas, 58, a’i chwaer Helen, 54, m mhlasty Scoveston yn Sir Benfro yn ôl yn Rhagfyr 1985.
  • Lladd yr ymwelwyr Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, o Swydd Rhydychen, a oedd yn cerdded ar hyd y llwybr yr arfordir ar ddiwrnod olaf pythefnos o wyliau yn Sir Benfro, ym Mehefin 198, pan gawson nhw’u saethu yn eu pennau.

Lleidr profiadol’

Yn ôl yr erlyniad, roedd John Cooper yn lleidr profiadol iawn, yn targedu cartrefi trwy gaeau, yn torri trwy ffensys o flaen llaw, ac yn sicrhau bod dihangfa ddiogel ar gael.

Mae’r erlyniad yn honni ei fod wedi torri i mewn i dŷ Richard a Helen Thomas gan wybod y byddai’r brawd allan, ac y byddai’r chwaer yno ei hun.

Ond, meddai roedd y brawd wedi dychwelyd yn ystod y lladrad, ac wedi distyrbio John Cooper i’r fath raddau nes iddo benderfynu lladd y ddau er mwyn dianc.

Roedd Gerard Elias hefyd yn honni bod John Cooper yn cael “boddhad rhywiol” yn ei ymosodiadau, gan nodi tystiolaeth fod corff Gwenda Dixon yn dangos olion ymosod rhywiol a ddigwyddodd tuag adeg ei marwolaeth.

Mae John Cooper yn gwadu’r pedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, a chyhuddiadau eraill o dreisio, ymosod yn rhywiol, a cheisio lladrata.