Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhuddo prifysgolion o roi eu lles eu hunain o flaen lles Cymru.

Dydyn nhw ddim yn gwneud digon i gyfrannu at strategaethau sydd er lles y genedl, meddai Leighton Andrews mewn datganiad yn y Cynulliad.

“Mae hunan-les y sefydliadau yn aml wedi cael goruchafiaeth tros angen a lles cenedlaethol,” meddai.

“Mae’r cyfle o gael cyrff llywodraethu sy’n llawn grym deinamig ar gyfer newid yn cael ei golli.”

Diwedd ar Brifysgol Cymru

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd Prifysgol Cymru naill ai’n gorfod uno gyda chyrff eraill neu’n dod i ben.

Fe fydd swyddogion y Llywodraeth yn ystyried cynlluniau’r Brifysgol i uno gyda thair o brifysgolion eraill ac yna’n penderfynu ar ei dyfodol.

Os na fyddan nhw’n hapus gyda’r cynlluniau, meddai Leighton Andrews, fe fydd yn disgwyl i’r Brifysgol uno gyda chyrff eraill i roi gwasanaethau i brifysgolion, neu ddod i ben.

Roedd yn ymateb i ddau adroddiad – un am Addysg Uwch a’r llall am Addysg Bellach – sydd wedi gwneud argymhellion am newidiadau sylweddol.

Corff newydd i’r holl brifysgolion

O ran y prifysgolion yn gyffredinol, fe fydd corff newydd yn cael ei greu i ddisodli’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch, gan ymateb i Lywodraeth y Cynulliad am “berfformiad cyffreedinol ys ector”.

Wrth greu corff newydd ‘Prifysgolion Cymru’, mae’r adroddiad yn argymell creu bwrdd rheoli o 12 aelod, gyda chwech yn annibynnol, a chwech yn perthyn i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Ymgynghori am addysg bellach

O ran Colegau Addysg Bellach, fe fydd y Llywodraeth yn ymgynghori ynglwn ag argymhellion yr adroddiad.

Mae’r rheiny’n cynnwys:

  • Creu byrddau mwy hyblyg i reoli’r colegau.
  • Creu corff aelodau ar gyfer pob un, gyda chynrychiolwyr o wahanol gefndiroedd.
  • Creu trefn i fonitro perfformiad yn well.
  • Cydweithio mwy, gyda grŵp o golegau’n cael ei greu ar gyfer pob rhanbarth.