Ma
Prif orsaf reilffordd Caerdydd
e’r nam trydanol sydd wedi creu anrhefn ar wasanaeth trenau de Cymruwedi cael ei atgyweirio.

Ond fe fydd rhaid aros am oriau eto cyn bod yr oedi ar y trenau yn cael ei ddatrys yn llwyr.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymyrryd i geisio sefydlu beth oedd achos yr anrhefn i deithwyr yn ardal y brifddinas – fe ddechreuodd y problemau ar ddechrau’r cyfnod brys, am saith y bore..

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw mewn “cysylltiad cyson â Network Rail, sydd wedi ein sicrhau ni eu bod nhw’n cymryd bob cam posib i adfer y sefyllfa.”

Pob trên trwy Caerdydd Canolog

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail wrth Golwg 360 fod pob un trên trwy brif orsaf Caerdydd wedi cael eu heffeithio.

Mae hynny’n cynnwys gwasanaethau trên gan Arriva Cymru, Crosscountry, a First Great Western – gwasanaethau ar hyd y brif lei,  i fyny i’r Cymoedd ac i’r Fro.

Roedd National Rail Enquiries wedi rhoi’r gorau i ddarogan pryd y bydd y gwasanaethau’n cael eu hadfer – ar y dechrau, roedden nhw wedi gobeithio y byddai trenau’n rhedeg eto erbyn deg.

Yn ôl y neges ddiweddaraf, does “dim gwasanaethau trên yn rhedeg trwy Gaerdydd” ar hyn o bryd – ac mai dyna fydd y sefyllfa nes y bydd datganiad i’r gwrthwyneb yn cael ei gyhoeddi.