Fujitsu - llun cyhoeddusrwydd o wefan y cwmni
Y cewri rhyngwladol Fujitsu sydd wedi cael y gwaith o ddatblygu arch gyfrifiadur cyflym ar gyfer prifysgolion a busnesau yng Nghymru.

Fe fyddan nhw hefyd yn creu canolfan ar gyfer ymchwil ac arloesi ym maes cyfrifiaduron , ac academi sgiliau yn y maes.

Mae’r cynllun cyfan werth £40 miliwn tros y pedair blynedd nesa’ ac, yn ôl y trefnwyr, fe fydd yn gosod Cymru ar y blaen yn y maes.

Y nod yw bod rhwydwaith yr archgyfrifiadur yn gweithio erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r cytundeb werth £15 miliwn i Fujitsu.

Creu rhwydwaith

Hanfod y cynllun yw cysylltu cyfrifiaduron pwerus ar draws Cymru gan greu rhwydwaith sy’n llawer cynt ac yn fwy na dim sydd ar gael ar hyn o bryd – fe fydd yn gallu delio gyda symiau anferth o wybodaeth yn eithriadol o gyflym.

Caerdydd, Abertawe a Doc Penfro fydd y prif ganolfannau, gyda chysylltiadau uniongyrchol â 12 safle arall ar draws Cymru, gan gynnwys Aberystwyth a Bangor, canolfannau busnes a rhai o’r prifysgolion eraill.

Mae £19 miliwn o’r arian yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, £10 miliwn gan Lywodraeth Prydain a £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru trwy’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch.

Fe gafodd corff newydd ei sefydlu gan y prifysgolion er  mwyn rheoli’r datblygiad.

Ieuan Wyn Jones yn croesawu’r datblygiad

“Fe fydd yn cynnig cefnogaeth bwysig i ddiwydiannau allweddol ac yn annog twf technoleg gwybodaeth a diwydiannau eraill,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd.

“Fe fydd yn rhoi min cystadleuol go iawn i fusnesau, yn annog diwydiannau sy’n creu gwerth ychwanegol ac yn gwneud Cymru’n lle deniadol ar gyfer buddsoddiadau uchel eu gwerth.”