Tai rhent preifat - o wefan Shelter, un o'r mudiadau sy'n ymgyrchu yn y maes
Fe ddylai’r Llywodraeth greu cofrestr gorfodol i drwyddedu pob asiantaeth gosod tai ac ystyried gwneud yr un peth gyda landlordiaid preifat.

Dyna un o’r argymhellion gan bwyllgor yn y Cynulliad sydd hefyd yn awgrymu creu cronfa arbennig i adfer tai segur a’u gosod i deuluoedd bregus.

Fe fyddai honno’n golygu rhoi grantiau neu fenthyciadau i landlordiaid preifat er mwyn eu hannog i wneud defnydd o adeiladau o’r fath.

“Mae gan y sector tai rhent preifat rôl allweddol wrth gwrdd â’r galw am dai yng Nghymru,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad, Sandy Mewies.

“Fe lwyddodd ein hymchwiliad ni i dynnu sylw at agweddau o’r sector y mae modd eu gwella er mwyn cynnig gwell tai a gwell safonau rheoli.”

Gwella delwedd

Roedd y pwyllgor yn dweud bod eisiau gwella delwedd y sector tai preifat ac annog landlordiaid i ymuno â threfn achredu.

Ond maen nhw hefyd wedi awgrymu cymryd camre gorfodol, gan greu cofrestr statudol i asiantaethau ac, efallai, i landlordiaid.

Ymhlith syniadau mwy arbrofol, roedd y Pwyllgor o blaid trefn lle gall asiantaethau gosod cymunedol gael prydles tymor hir ar dai sy’n eiddo i landlordiaid preifat.

Fe fydden nhw wedyn yn gallu gosod y tai – yn ôl y Pwyllgor, fe fyddai hynny’n rhoi sicrwydd incwm i landlordiaid ac yn rhoi llawer rhagor o dai rhent dan reolaeth yr asiantaethau.

Gwell defnydd o dai gwag

Mae mudiadau i’r digartref, fel Shelter Cymru, wedi bod yn galw am wneud gwell defnydd o gartrefi segur.

Maen nhw’n dweud bod 26,000 o adeiladau felly wedi bod yn wag ers mwy na 6 mis yng Nghymru ac fe fyddai’n costio cyfartaledd o rhwng £6,000 a £12,000 i’w hadfer nhw.