Alun Ffred Jones
Fe ddylai pob Cynllun Datblygu Lleol gynnwys asesiadau o’u heffaith ar yr iaith Gymraeg, yn ôl argymhellion newydd gan Lywodraeth y Cynulliad.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol ddangos yn glir sut y maen nhw wedi ystyried yr iaith wrth baratoi’r cynlluniau.

Fe gafodd dogfen newydd ei chyhoeddi ddoe’n crynhoi’r argymhellion newydd am yr iaith a chynllunio ac mae gan bobol tan ddechrau Mehefin i ymateb iddyn nhw.

Cynnig arall yw bod treth ar ddatblygiadau – yr Ardoll Seiliau Cymunedol – yn cael ei defnyddio i godi arian at gefnogi’r iaith.

Fe fyddai’n rhaid i gynghorau lleol hefyd fonitro’r effaith ar yr iaith o ganlyniad i ddatblygiadau newydd.

Os bydd y newidiadau’n cael eu derbyn fe fyddan nhw’n sail i nodyn cynghori newydd yn y maes. Fe fyddai hwnnw’n disodli nodyn cyngor TAN 20 a gafodd ei gyhoeddi yn 2000.

Rhan o Cymru’n Un

Roedd newid perthynas yr iaith a chynllunio’n rhan o gytundeb Cymru’n Un sy’n sail i’r llywodraeth glymblaid ac roedd Pwyllgor Cynaladwyedd y Cynulliad wedi’u beirniadu am fethu â gweithredu.

Roedd yn bwysig i Blaid Cymru eu bod yn gallu cadw at yr addewid cyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis  Mai.

“Bydd y canllawiau newydd hyn yn cefnogi ein polisïau eraill i fodloni awydd y Llywodraeth i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.