Glanhau cegin (o wefan y Llais Defnyddwyr)
Mae o leia’ dri ysbyty yng Nghymru a mwy na 30 o gartrefi a llefydd gofal yn torri cyfreithiau glendid bwyd, meddai Llais Defnyddwyr Cymru.

Mae’r un peth yn wir am 30 o ysgolion a cholegau yn ôl y corff gwarchod cwsmeriaid, sy’n galw am gyhoeddi adroddiadau ar lendid ceginau ac am ddangos eu sgôr glendid yn glir.

Mae’n annerbyniol bod llefydd sy’n cynnig gofal i bobol fregus yn methu â chadw at reolau glendid, meddai Uwch Gyfarwyddwr y Llais Defnyddwyr, Maria Battle.

Canlyniadau ymchwiliadau

Roedd y corff wedi astudio canlyniadau’r ymchwiliadau glendid a ddechreuodd yn yr hydref y llynedd, yn rhannol o ganlyniad i’r achos marwol o haint e.coli a fu yn ne Cymru yn 2005.

Mae’r rheiny’n dangos bod mwy na 60 o sefydliadau wedi cael sgôr o ddau neu lai allan o bump, sy’n golygu eu bod yn torri rhyw elfen o gyfreithiau glendid bwyd.

Yn ôl adroddiad y Llais Defnyddwyr, roedd problemau’n cynnwys problemau fel lloriau budr a bwyd babi y tu hwnt i’w ddyddiad defnyddio.

Pobol Cymru ‘o blaid dangos y sgôr’

Mae 89% o bobol Cymru o blaid gorfodi sefydliadau i ddangos eu sgôr glendid, meddai Maria Battle.

‘Yr arf mwyaf effeithiol i wella hylendid bwyd yw sicrhau bod busnesau’n agored i gael eu barnu gan y cyhoedd, drwy fynnu eu bod yn arddangos eu sgorau hylendid bwyd,” meddai.

‘Mae’r ffaith fod y mwyafrif llethol o sefydliadau sy’n gweini bwyd i grwpiau bregus yn cael sgoriau uchel yn ei gwneud yn anoddach fyth i ddeall pam mae nifer fechan yn cael sgôr mor wael.”