Blaenau Ffestiniog un o'r trefi llechi
Fe allai ardal chwareli gogledd Cymru ddod yn Safle Treftadaeth byd ar ôl ei chynnwys ar restr o safleoedd posib.
Mae’r diwydiant llechi yn un o 11 lle a fydd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Prydain yn ystod y blynyddoedd nesa’.
Pe bai’r ardal yn cael ei dewis, fe fyddai’n ymuno gyda chestyll Edwardaidd y Gogledd, tirwedd diwydiannol Blaenafon yn y De a phont ddŵr Froncysyllte ger Wrecsam.
Er hynny, fe allai gymryd rhai blynyddoedd cyn y bydd yn cael ei hystyried gan gorff addysg y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.
Dim ond bob hyn a hyn y bydd y Llywodraeth yn cynnig ardal newydd, a dim ond un ar y tro.
Ymhlith y 10 arall a gafodd eu dewis o restr ehangach o 38, mae Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, Pont Afon Forth yn yr Alban ac Ynys St Helena yn Ne’r Iwerydd.
Mae’r cyhoeddiad wedi ei groesawu gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sy’n dweud y gallai statws Treftadaeth Byd wneud lles i dwristiaeth yn yr ardal.