Mae Heddlu Dyfed-powys wedi galw am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad taro a ffoi yn Llanelli.
Dioddefodd dyn 48 blwydd oed anafiadau i’w goesau, ei freichiau, a’i ben, ar ôl cael ei daro gan gar wrth groesi ffordd Heol yr Orsaf.
Digwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 5pm ar nos Iau 10 Mawrth.
“Wrth i’r dyn groesi’r ffordd, cafodd ei daro gan gar bach glas tywyll,” meddai’r Arolygydd Eric Evans. “Taflwyd y dyn i’r awyr, ac wrth iddo ddisgyn, tarodd yn erbyn y rheiliau y tu allan i dafarn Barnums.
“Gwelwyd y car yn mynd yn ei flaen tuag at y groesffordd ger y sinema, yna trodd i’r dde i lawr Stryd Murray. Mae’n bosibl fod peth difrod ar flaen y car, i ochor y gyrrwr.”
Mae’r Heddlu’n dweud fod y digwyddiad yn un “difrifol iawn” ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i’w hymchwiliad, gysylltu.
Gellir ffonio 101 neu 01267 222020.