Aberhonddu
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff merch yn  Afon Wysg.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn amau mai corff Alice Vulliamy, 24 mlwydd oed, oedd yn yr afon.

Daethpwyd o hyd i’r corff tua 5 milltir i lawr yr afon o Aberhonddu ddydd Sul, meddai swyddog Heddlu.

Diflannodd Alice o Langynidr, Powys, tua wyth wythnos yn ôl.