Mae dau berson wedi eu trin ar ôl damwain car ar rhwng Aberystwyth a Talybont fore heddiw, meddai’r Heddlu.

Roedd car Peugeot 205 wedi troi drosodd gan lanio ar ei do tua 07:55 bore ‘ma.

Cafodd dyn a dynes fu yn y car eu trin gan barafeddygon. Roedd y dyn wedi dioddef man anafiadau i’w ben.

Caewyd y ffordd am gyfnod a thraffig ei ddargyfeirio drwy Landre. Cafodd y ffordd ei ail-agor tua 09:30am.