Cafodd arbrawf ei gynnal dros y penwythnos i weld a oedd pobol fu’n byw ar ben bryniau Cymru yn ystod yr Oes Haearn yn gallu cysylltu â’i gilydd.

Fflachiodd gwirfoddolwyr oleuadau at ei gilydd o begynau 10 o gaerau yng ngogledd Cymru, Cilgwri, a Sir Gaer.

Nod yr arbrawf oedd gweld pa mor hawdd fyddai hi i gymunedau oedd yn byw yn y caerau ar ben y bryniau i gadw mewn cysylltida gyda’r nos.

Roedd disgwyl i’r arbrawf gael ei gynnal ym mis Rhagfyr oedd roedd rhaid gohirio yn sgil y tywydd gwael.

“Mae modd gweld y rhan fwyaf o’r caerau sydd ar ben y bryniau o’r caerau eraill,” meddai’r archeolegydd Erin Robinson, trefnydd yr arbrawf.

“Roedden ni eisiau gweld a fyddai pobol wedi gallu cysylltu â’i gilydd o un bryd i’r llall gan ddefnyddio tân.”

Mae’r caerau yn dyddio yn ôl tua 2.500 o flynyddoedd. Roedd y gwirfoddolwyr yn sefyll ar Foel y Gaer, Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Fenlli, Caer Drewyn, Castell Maiden, Castell Beeston, Kelsborrow, Helsby, a Burton Point.