Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru
Honnodd Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, heddiw fod Cymru wedi colli gwerth £50 biliwn mewn buddsoddiad o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan.

Beirniadodd y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu Morglawdd Sir Benfro, academi filwrol Sain Tathan a phrosiect Ynys Ynni Môn.

Dywedodd y byddai £50.7 biliwn wedi ei fuddsoddi yng Nghymru gan y prosiectau rheini – bron i £17,000 ar gyfer pob person yn y wlad.

Cyhuddodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, o “fethu” wrth geisio amddiffyn Cymru.

“Roedd y penderfyniad i gael gwared ar y cynlluniau i adeiladau morglawdd ar draws yr Aber Hafren a’r academi filwrol yn Sain Tathan yn ergyd anferth i Dde Cymru,” meddai Peter Hain.

“Roedd dileu prosiect Ynys Ynni Môn hefyd yn ergyd i Ogledd Cymru.

“Dyna’r math o brosiectau isadeiledd mawr sydd ei angen ar Gymru er mwyn denu rhagor o fuddsoddiad, tyfu busnesau bychain ac annog y bobol fwyaf deallus i aros yng Nghymru.

“Yn y Gyllideb ddydd Mercher mae gan Ysgrifennydd Cymru gyfle i wneud yn iawn am yr holl ddifrod i economi Cymru.

“Fe fydd yn brawf mawr iddi – a fydd hi’n gallu annog y Canghellor, George Osborne i wrthdroi i doriadau llymaf yng Nghymru?”

Ymateb

Dywedodd Swyddfa Cymru y dylai Peter Hain fod wedi bwrw ymlaen â’r prosiectau ei hun pan oedd y Blaid Lafur mewn grym am 13 mlynedd.

Ychwanegodd Swyddfa Cymru mai Cyngor Ynys Môn oedd yn gyfrifol am brosiect Ynys Ynni Môn.