Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, yn gobeithio y bydd modd cynnal refferendwm ar sefydlu maer ar yr ynys y flwyddyn nesaf.

Bydd angen i 10% o etholwyr yr ynys, sef tua 5,000 o bobol, arwyddo deiseb cyn gallu cynnal y refferendwm.

Dywedodd Albert Owen ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen o ddifri â’r ymgyrch yn syth ar ôl diwedd Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Daw’r ymgyrch i sefydlu maer ar yr ynys ar ôl i’r Archwilydd Cyffredinol ddweud y byddai’n fodd o ddatrys problemau gwleidyddol Cyngor Ynys Môn.

Yr wythnos diwethaf penderfynodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, ddiddymu pwerau gweithgor cyngor yr ynys ar ôl arolwg beirniadol arall.

Fe fydd comisiynwyr yn rheoli’r cyngor nes yr etholiadau lleol nesaf o leiaf, meddai.

Ateb radical

“Mae’r sefyllfa yn un anobeithiol ac mae angen atebion radical,” meddai Albert Owen wrth bapur newydd y Daily Post.

“Ar hyn o bryd mae arweinydd y cyngor yn cael ei ethol â thua 200 o bleidleisiau ac yna’n cael ei ddewis gan grŵp bychan o gynghorwyr. Dyw hynny ddim yn fandad.

“Roedd cynghorwyr yn erbyn y syniad o gael maer yn wreiddiol ond maen nhw wedi dechrau ail-ystyried.

“Yn ystod fy wyth mlynedd gyntaf wrth y llyw roedd rhaid i mi weithio â chwe arweinydd gwahanol ar y cyngor, a tri phrif weithredwr. Does yna ddim sefydlogrwydd.

“Fe fyddai maer yn ei swydd am bedair blynedd ac fe fyddai hynny’n cynnig sefydlogrwydd.

“Byddai’n rhaid iddyn nhw gyflawni eu haddewidion neu wynebu talcen caled wrth gael eu hail-ethol.”