Un Nos Ola Leuad
Mae cynhyrchiad sydd wedi ei seilio ar un o nofelau enwoca’ Cymru’n torri pob record yn neuaddau a theatrau’r wlad, meddai cwmni drama.

Mae’r ymateb i berfformiadau o’r ddrama Un Nos Ola Leuad wedi bod yn “rhyfeddol”, meddai Theatr Bara Caws.

Y disgwyl yw y bydd mwy na 3,000 o bobol wedi gweld y cynhyrchiad erbyn diwedd y daith , gyda’r rhan fwya’ o ganolfannau wedi gwerthu’n llwyr.

Ddiwedd yr wythnos ddiwetha’, roedd ychydig o docynnau ar gael mewn llefydd fel Cricieth ac Abertawe ond doedd dim yn sbâr ar gyfer y rhan fwya’ o’r 20 lle.

‘Dim byd tebyg’

“Dw i wedi bod yn gweithio ym myd y theatr ers blynyddoedd, ond dw i erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn,” meddai gweinyddydd Bara Caws, Linda Brown.

Er bod y nofel yn cael ei hastudio mewn ysgolion, nid dyna oedd yn gyfrifol am boblogrwydd y cynhyrchiad, meddai.

Yr actorion, John Ogwen a Maureen Rhys, oedd wedi addasu’r nofel yn ddrama ac fe gafodd ei pherfformio gynta’ 30 mlynedd yn ôl.

Mae hi’n 50 mlynedd ers cyhoeddi nofel Caradog Prichard, a gododd o’i brofiadau ei hun yn ardal Dyffryn Ogwen.

Mae ymateb y cynulleidfaoedd hefyd wedi bod yn dda – ym marn J. Elwyn Hughes, yr arbenigwr ar Caradog Prichard, fe fyddai’r llenor ei hun wedi mwynhau’r “actio celfydd”.