Nerys Evans - galw am ddatganoli
Fe ddylai’r gwasanaeth Gwylwyr y Glannau gael ei ddatganoli, meddai un o ACau Plaid Cymru wrth ymgyrchu i achub gorsaf y gwylwyr yn Aberdaugleddau.
Yn ôl Nerys Evans, mae gwasanaethau brys eraill – fel y gwasanaeth tân a’r ambiwlans – eisoes dan reolaeth Llywodraeth y Cynulliad ac fe ddylai’r un peth fod yn wir am y gwasanaeth achub ar y môr.
Roedd yr AC rhanbarthol yn siarad mewn rali tros y Sul i geisio atal cynlluniau’r Llywodraeth yn Llundain i gau’r orsaf sy’n delio gyda galwadau brys yn ne-orllewin Cymru ac ym Mae Ceredigion.
Roedd y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, yn y rali hefyd, yn ogystal ag AS Môn, Albert Owen – mae bwriad i gau’r orsaf yng Nghaergybi hefyd.
Roedd Nerys Evans yn croesawu penderfyniad Llywodraeth San Steffan i estyn y cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau gan ddweud bod hynny’n dangos cryfder y gwrthwynebiad.
‘Di-hid am ddiogelwch’
“Mae cynlluniau’r Torïaid yn dangos pa mor bell yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fywyd yng Ngorllewin Cymru, fel nad ydyn nhw’n rhoi hidio am ddiogelwch y rhain ohonon ni sy’n byw ger yr arfordir,” meddai Nerys Evans.
Fe fydd hi’n sefyll yn sedd Gorllewin Caerfyrddin a Phenfro yn Etholiadau’r Cynulliad – yr etholaeth sy’n cynnwys Aberdaugleddau ac sy’n cael ei dal gan y Ceidwadwyr ar hyn o bryd.
Fe fydd yn ceisio troi achos gwylwyr y glannau’n bwnc llosg yn yr etholiad ac roedd hi’n beirniadu gwleidyddion Cymreig y Torïaid gan eu cyhuddo o fethu â chael dylanwad.
Yr wythnos ddiwetha’, roedd yr AC presennol, Angela Burns, yn mynnu ei bod hi wedi codi’r mater yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd Cymru a bod llais pobol Sir Benfro’n cael ei glywed yn Whitehall.