Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n apelio ar i bawb osod larwm mwg yn eu tŷ ar ôl i ddynes farw mewn tân yn Sir y Fflint ddoe.

Pan gafodd achubwyr eu galw i dân mewn tŷ ym Mwcle yn ystod oriau mân fore ddoe, fe gawson nhw hyd i ddynes 31 oed wedi marw. Fe lwyddon nhw i achub bachgen dwyflwydd oed, ac roedd mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael triniaeth am anadlu mwg.

Credir bod y tân wedi cael ei achosi gan gannwyll a oedd wedi cael ei gadael wrth ymyl y teledu yn y tŷ, ac yn ôl swyddogion tân, fe allasai larwm mwg fod wedi gallu achub ei bywyd.

“Doedd dim larwm mwg yn gweithio yn y tŷ yma ac fe fyddwn i felly’n pwyso ar bawb i sicrhau eu bod nhw’n gosod larymau mwg yn eu tai,” meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Colin Hanks o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

“Fe allan nhw’n llythyrennol olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth – felly peidiwch da chi â gohirio gosod larwm mwg yn eich cartref.

“Fe all y rhybudd cynnar sy’n cael ei roi gan larwm mwg roi digon o amser ichi alw am help a mynd allan yn ddiogel o adeilad.”

Ychwanegodd y bydd ymladdwyr tân yn cynnig gwiriadau diogelwch tai i drigolion ardal Bwcle’r wythnos yma.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cynnig gwiriadau diogelwch am ddim i’r cyhoedd. Mae mwy o fanylion ar gael trwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr 0800 169 1234 neu ar y wefan www.gwastan-gogcymru.org.uk