Mae heddlu Iwerddon yn amau mai rhai o Gymru oedd dwy chwaer y cafwyd hyd i’w cyrff ar draeth yng ngorllewin Iwerddon fore ddoe.

Cafwyd hyd i’r cyrff gerllaw tref lan-môr Miltown Malbay yn Swydd Clare gan gerddwr a oedd yn mynd heibio. Credir bod y ddwy chwaer ganol oed ar wyliau yn yr ardal.

Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel damwain. Yr amheuaeth yw fod un wedi syrthio i’r môr a bod y llall wedi boddi wrth geisio ei hachub.