Fe fu farw dynes 31 oed o Sir y Fflint mewn tân yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân y bore.

Ond llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i achub bachgen dwyflwydd oed o’r tân mewn ty ym Mwcle.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw yno gan gymdogion am ddeng munud i dri y bore yma.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel un amheus.