Nick Bourne - "Ni ydy llais Gogledd Cymru".
Fe fyddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghaerdydd yn cynnwys gweinidog arbennig ar gyfer gogledd Cymru, yn ôl eu harweinydd yn y Cynulliad.

Mewn araith yn Llandudno, fe ddywedodd Nick Bourne y bydden nhw hefyd yn gwneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cwrdd am bythefnos bob blwyddyn yn y Gogledd.

Fe fyddai’r Gweinidog tros Ogledd Cymru’n llais cry’ i’r ardal wrth fwrdd y cabinet, meddai, gan gyhuddo Llafur o fod wedi ei hesgeuluso.

“Am ry hir, mae Llafur wedi cael ei gweld yn llywodraethu er lles de Cymru’n unig,” meddai. “Mae Llafur wedi dangos diffyg dealltwriaeth o anghenion penodol pobol yng ngogledd Cymru.”

Dim ond unwaith ers 2007 yr oedd cabinet y Llywodraeth wedi cwrdd y tu allan i Gaerdydd, a hynny ym Merthyr Tudful.

Roedd yn feirniadol o record y blaid Lafur o ran iechyd, twristiaeth, trafnidiaeth a’r economi yn y Gogledd.