Peter Davies, pennaeth Ceop
Roedd deg o ddynion yng Nghymru ymhlith mwy na 240 a gafodd eu hamau o gam-drin plant yn ystod un o’r cyrchoedd mwya’ erioed yn erbyn pedoffiliaid.

Roedd chwech o’r rheiny’n ardal Heddlu De Cymru, roedd dau yn ardal Gogledd Cymru ac un yr un yn Nyfed-Powys a Gwent.

Dyw hi ddim yn glir eto a oes rhai o’r deg wedi cael eu herlyn ond roedden nhw wedi cael eu dal wrth i wasanaeth Ceop, sy’n ceisio atal troseddau rhyw ar-lein yn erbyn plant – dorri cylch rhyngwladol ar y We.

Fe gafodd 121 o bedoffiliaid honedig eu harestio yng ngwledydd Prydain yn ystyod yr ymgyrch ac mae 33 eisoes wedi eu herlyn. Roedd tua 120 arall wedi eu henwi gan Ceop a’r wybodaeth wedi’i throsglwyddo i heddluoedd lleol.

Dyna a ddigwyddodd yn achos y deg o Gymru a oedd wedi bod yn defnyddio gwefan i gael gafael ar luniau o fechgyn.

Roedd 230 o blant wedi cael eu hachub gan gynnwys 60 yng ngwledydd Prydain a oedd, yn ôl Ceop, mewn peryg gwirioneddol o gael eu cam-drin.

Roedd yr ymchwiliad yn rhan o Operation Rescue sydd wedi bod yn mynd ers mwy na thair blynedd ar draws y byd, gyda swyddogion heddlu yn treiddio i mewn i’r cylch pedoffiliaid.

‘Tir newydd’

“Mae maint a llwyddiant Operation Rescue wedi torri tir newydd,” meddai Peter Davies, pennaeth Ceop. “Mae’n dangos effaith cyrff cyfraith a threfn rhyngwladol yn cydweithio.

“Tra oedd y bobol hyn yn meddwl eu bod yn ddienw oherwydd eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyfathrebu, roedd y dechnoleg yn cael ei defnyddio yn eu herbyn.”

Roedd y rhai sydd wedi eu harestio’n cynnwys plismon, arweinydd sgowtiaid, athrawon a gweithwyr ieuenctid.