Gwasanaeth tan
Mae’r digwyddiad a arweiniodd at yrru degau o bobol o’u cartrefi yn Llanelli wedi dod i ben.

Dyw’r Gwasanaeth Tân ddim wedi dod o hyd i achos yr adroddiadau bod nwy’n gollwng yn ardal Heol Felinfoel.

Fe gafodd tafarn a chartref gofal eu clirio wrth i ddiffoddwyr tân chwilio am yr achos ond dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i unrhyw broblem.

Fe fu’n rhaid i 36 o bobol adael y cartref gofal gyda chymorth yr heddlu ac roedd trigolion tai cyfagos hefyd wedi gorfod gadael eu cartrefi am rai oriau.

Yn y cyfamser, mae cwmni Dŵr Cymru wedi glanhau’r system garthffosiaeth rhag ofn mai dyna oedd achos y broblem.