Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ar y broses o ddiswyddo cymaint â 200 o blismyn a gweithwyr eraill tros gyfnod o 18 mis.

Y cam cynta’ fydd cau tair canolfan alwadau a thynnu’r holl wasanaethau hynny at ei gilydd yn y Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r heddlu wedi rhoi rhybudd 90 diwrnod i’r staff ac yn trafod gyda’r undebau ond mae’r penaethiaid yn rhybuddio mai dim ond dechrau yw hyn.

Fe fydd rhaid i’r Heddlu arbed £19 miliwn o fewn y flwyddyn nesa’ a £47 miliwn tros bedair blynedd, oherwydd toriadau yn eu harian.

Tua 200 o swyddi

Yn ôl llefarydd dyw hi ddim yn glir eto faint yn union o bobol fydd yn cael eu diswyddo ond fe fydd tua 200 o swyddi’n mynd yn y pen draw, gan gynnwys rhai yn yr adran alwadau.

Fe fydd canolfannau’n mynd yn Abertawe, Pontypridd a Phorth Caerdydd, gan effeithio ar y gwasanaeth galwadau llai brys 101. Yn ôl yr Heddlu, fe fydd y newidiadau hefyd yn gwella’r gwasanaeth.

Maen nhw’n gobeithio torri llawer o’r swyddi trwy ymddeoliadau, diswyddo gwirfoddol a chadw swyddi gwag.

‘Dim dewis’

“Ar ôl gwneud arbedion o fwy na £30 miliwn yn ystod y pum mlynedd diwetha’, does gyda ni fawr o ddewis nawr ond torri ar niferoedd,” meddai’r Prif Gwnstabl, Peter Vaughan.

“Ein staff sy’n cyfri’ am 80% o’n costau ni felly mae unrhyw arbedion yn bownd o gael effaith arnyn nhw.”