Fan Heddlu De Cymru
Mae pump o bobol wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll tros safleoedd glo yn ne Cymru.

Roedd 90 o swyddogion dan arweiniad y Swyddfa Dwyll Difrifol wedi mynd i gartrefi yn ne Cymru, yn Llundain a Birmingham ac i un busnes yn y De hefyd.

Mae tri o’r pump sydd wedi eu holi’n dod o’r De – yr unig fanylion ar hyn o bryd yw eu hoedrannau: 65, 36 a 31. Dyn o Lundain a gwraig o Birmingham yw’r ddau arall.

Roedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent hefyd yn rhan o’r ymchwiliad sy’n ymwneud â chynllwyn i dwyllo tros y broses o werthu’r pedwar safle.