Mae pum person wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i dwyll mewn â gwerthiant pedwar safle mwyngloddio yn ne Cymru. 

 Mae cyrch o dan arweiniad y Swyddfa Twyll Difrifol wedi chwilio wyth safle yn rhan o’r ymchwiliadau. 

 Mae saith o’r safleoedd yn gartrefi gyda phump ohonynt yn ne Cymru, un yn Llundain ac un yn Birmingham.  Fe gafodd un busnes yn ne Cymru ei chwilio hefyd. 

 Mae dynion 65, 36 a 31 oed wedi cael eu harestio yn ne Cymru ynghyd a dyn 47 o Lundain a menyw 28 yn Birmingham.  Fe gafodd y pump eu holi ac maen nhw erbyn hyn wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau. 

 Mae’r ymchwiliadau’n edrych mewn i honiadau o gynllwynio i dwyllo mewn cysylltiad â gwerthiant y pedwar safle. 

 Roedd dros 90 o ymchwilwyr a heddweision o Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn rhan o’r cyrch.