Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi bydd etholiad nesaf Cynulliad Cymru yn cael ei oedi am flwyddyn o 2015 i 2016. 

 Fe fydd Llywodraeth nesaf y Cynulliad ar ôl etholiad mis Mai yn rheoli am bum mlynedd yn hytrach na’r drefn cynt o dymor pedair blynedd. 

 Mae’r oediad yn nyddiad yr etholiad yn golygu na fydd pleidlais ar gyfer y Cynulliad yn gwrthdaro gyda’r Etholiad Cyffredinol yn 2015. 

 Roedd Llywodraeth San Steffan wedi cynnig naill ai symud etholiad y Cynulliad ymlaen neu’n ôl flwyddyn er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro. 

 Mae ACau wedi pleidleisio i gefnogi’r penderfyniad i oedi am flwyddyn ac fe fydd Llywodraeth San Steffan yn ei gymeradwyo.