Y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi penodi comisiynwyr i reoli Cyngor Ynys Môn. 

 Fe ddaw ei benderfyniad yn dilyn argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gafodd eu cyhoeddi’n gynharach heddiw (gweler stori isod).

 Fe ddywedodd Carl Sargeant ei fod yn cydnabod bod problemau sylfaenol yn parhau – er gwaethaf cefnogaeth gan Fwrdd Adfer a’r Rheolwr Cyfarwyddwr. 

 Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi penodi dau gomisiynydd hyd yn hyn gyda thri arall i ddilyn yn fuan. 

 Mae cyn arweinydd Cyngor Sir Fflint, Alex Aldridge ynghyd â chyn Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Byron Davies, wedi cael eu penodi’n gomisiynwyr i reoli Cyngor Ynys Môn. 

 Yn ogystal, fe fydd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, yn ymuno’n gomisiynydd pan fydd yn ymddeol o’r heddlu ar ddiwedd y mis. 

 Fe fydd dau gomisiynydd arall hefyd yn cael eu penodi ac fe fydd Carl Sargeant yn eu henwi cyn gynted â phosib. 

 “Mae gormod o gynghorwyr Ynys Môn yn dal i fod yn pryderu am fanteision eu hunain yn hytrach na chwrdd â gofynion y trigolion,” meddai.  “Nid democratiaeth yw hyn  – ond  gwleidyddiaeth y maes chwarae.

 “Mae’r ynys yn wynebu rhoi o’r heriau mwyaf difrifol o unrhyw gyngor yng Nghymru ac all yr esgeulustod yma ddim parhau.

 “Mae’r cynghorwyr hynny sydd wedi gweithredu’n anghyfrifol er gwaethaf sawl ymchwiliad annibynnol, achosion Ombwdsman, ac ymyrraeth gan weinidogion wedi cael digon o gyfleoedd i newid eu ffyrdd.

 “Dw i ddim yn barod i wastraffu mwy o arian cyhoeddus ar gyngor sydd ddim am helpu ei hun.”

 “Fe fydd y penderfyniad yn sicrhau bod gofynion pobl Ynys Môn yn dod yn gyntaf, ac nid gofynion nifer fach o gynghorwyr sydd wedi dewis rhoi gwleidyddiaeth personoliaeth o flaen gwasanaeth cyhoeddus.”

Penderfyniad ‘anochel’

 Fe ddywedodd Dirprwy Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad ac AC Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones ei fod yn “anochel” fod comisiynwyr wedi cael eu penodi.

 “Mae pobl Ynys Môn wedi bod yn dweud wrthyf yn ddi-flewyn ar dafod yn ystod yr wythnosau diwethaf fod angen i rywbeth difrifol gael ei wneud i ddod â sefydlogrwydd i’r cyngor, fel y gallwn symud ymlaen i gyfnod newydd,” meddai Ieuan Wyn Jones. 

 “Mae’r Gweinidog wedi dod i’r casgliad nad oes digon o gynnydd wedi bod ers sefydlu’r Bwrdd Adfer, a bod nawr angen y comisiynwyr i redeg swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith, neu’r Cabinet.

 “Rydw i’n falch iawn fodd bynnag fod yr elfen craffu yn aros gyda’r cynghorwyr etholedig, gan fod gwell cynnydd wedi cael ei wneud yn y maes yma. 

“Er hynny, mae’r cam mae Carl Sargeant wedi ei gymryd yn ddigynsail mewn llywodraeth leol yng Nghymru, ac rydym i gyd yn gobeithio y bydd yn llwyddiant.  Byddaf yn gweithio gyda’r comisiynwyr i sicrhau fod y Cyngor yn llwyddo i sefydlogi wrth symud ymlaen.

 “Mae datganiad y Gweinidog yn ei gwneud hi’n glir y bydd y comisiynwyr yn eu lle tan o leiaf etholiad nesaf y cyngor a byddaf yn gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr, pan fo gwaith y comisiynwyr wedi’i wneud, y bydd gan y Cyngor dyfodol cynaliadwy.

 “Rydw i hefyd wedi fy argyhoeddi ei bod hi’n angenrheidiol i newid y system ward etholiadol ar gyfer yr ynys, gan symud at wardiau aml-aelod, a bod y pleidiau gwleidyddol yn chwarae rhan gryfach yn ymgyrch etholiad nesaf y Cyngor. 

 “Dyna’r unig ffordd o dorri’r cylch cyson o ansefydlogrwydd a symudiadau gwleidyddol sydd wedi bod yn nodwedd o wleidyddiaeth yr ynys mewn blynyddoedd diweddar.  Byddaf yn cysylltu gyda’r pleidiau gwleidyddol sefydledig eraill ar yr ynys er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau i annog pobl dda i sefyll yn yr etholiad nesaf.”

Croesawu’r cyhoeddiad

 Mae Gweinidog Lywodraeth Leol yr wrthblaid, Jonathan Morgan, Aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Caerdydd, wedi croesawu’r cyhoeddiad Carl Sargeant. 

 “Rwy’n cytuno’n llwyr fod angen gweithredu’n ymhellach ac yn yr hir dymor mae pobl Ynys Môn bydd yn cael cymryd rheolaeth a chael rhoi eu barn ar ba ffordd dylai’r awdurdod symud ‘mlaen,” meddai Jonathan Morgan. 

 “Yn y tymor byr, mae angen i Lywodraeth y Cynulliad gydweithio’n agos gyda swyddogion y cyngor i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu darparu’n effeithiol.”