Mae ymgyrch yn cael ei lansio heddiw i geisio sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn amddiffyn gwariant ar ddiogelu plant.
Nod ymgyrch NSPCC Cymru, I Stand For Children, sy’n cael ei lansio yn Llantristant, yw gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc sy’n sy’n agored i niwed yng Nghymru.
Mae ymgyrchwyr yn apelio ar bleidleiswyr i bwyso ar eu ymgeiswyr lleol sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai – i geisio sicrhau mesurau i amddiffyn plant.
Mae pennaeth gwasanaeth NSPCC Cymru, Des Mannion eisiau i Weinidogion amddiffyn cronfa arian rheng flaen y gwasanaethau cymdeithasol ac eisiau ceisio sicrhau fod y Cynullid yn helpu mynd i’r afael ag esgeulustra plant.
“Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadw diogelwch plant ar frig eu rhestr blaenoriaeth,” meddai.
“Gydag un ym mhob pump o blant yng Nghymru wedi dioddef o gam-drin neu esgeulustod, mae’n hanfodol bod gennym bolisïau a gwasanaethau llywodraeth mewn lle i helpu amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.”