Fe wnaeth cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghasnewydd y llynedd godi gwerth twristiaeth golff yng Nghymru i bron i £42 miliwn – cynnydd o 21% o gymharu â’r flwyddyn cynt.

 Roedd 50,000 o gefnogwyr ar draws y byd wedi mynychu’r gystadleuaeth yn y Celtic Manor mis Hydref diwethaf. 

 Fe gafodd y ffigurau eu rhyddhau yn dilyn astudiaeth gan Lywodraeth y Cynulliad. 

 Maen nhw’n dangos bod dros 200,000 o ymwelwyr golff wedi teithio i Gymru yn y flwyddyn ddiwethaf – cynnydd o 9% ar 2009. 

 Yn ôl yr adroddiad roedd nifer o ymwelwyr oedd wedi aros dros nos wedi cynyddu 12% gyda gwariant pob person ar gyfartaledd yn cynyddu £29. 

 Roedd nifer o ymwelwyr dros nos  o dramor yn 16% o’r cyfanswm mewn cymhariaeth â 11% yn 2009 a 5% yn 2008. 

‘Hwb mawr i Gymru’ 

Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones wedi dweud bod y Cwpan Ryder wedi bod yn hwb mawr i Gymru. 

 “Mae diwedd y Cwpan Ryder yn ddechrau pennod newydd i golff yng Nghymru,” meddai Alun Ffred Jones. 

 Yn ôl y Gweinidog Treftadaeth mae twristiaeth yng Nghymru gwerth £4 biliwn i economi Cymru ac mae ymdrechion i ddod â mwy o ddigwyddiadau i’r wlad. 

 Fe ddywedodd Alun Ffred Jones ei fod wedi cyfarfod gyda llywydd FIFA, Sepp Blatter ynglyn â chynlluniau i gynnal cystadlaethau pêl droed Ewropeaidd yn Stadiwm y Mileniwm.