Fe fydd cyflogau Aelodau Cynulliad Cymru yn aros yr un peth am y pedair blynedd nesaf yn dilyn cyhoeddiad gan fwrdd annibynnol. 

Yn ogystal â chyflogau ACau yn aros yn £53,852, fe fydd cyflogau’r Prif Weinidog a’r Llywydd yn aros yn ddigyfnewid hefyd. 

 Fe ddaw’r penderfyniad yn rhan o fesurau sy’n ymgeisio arbed £12.7 miliwn o arian trethdalwyr. 

 Mae’r adroddiad gan Fwrdd Tâl Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn cadarnhau y bydd yna leihad yn y nifer o ACau sy’n derbyn cymorth ariannol am lety yng Nghaerdydd. 

 Fe fydd gwleidyddion Bae Caerdydd yn parhau i allu hawlio costau teithio “pe bai’n angenrheidiol mewn cysylltiad gyda’u dyletswyddau.”

 “Ry’n ni wedi gosod allan system o gymorth ariannol sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth yn ogystal â bod yn gost effeithiol,” meddai cadeirydd Bwrdd Tâl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Dyma adroddiad cyntaf gan y bwrdd sy’n gosod allan system cefnogaeth ariannol i ACau ar gyfer pedwerydd tymor y Cynulliad.