Gorsaf niwclear Wylfa ym Môn
Mae’r ffrwydradau yng ngorsaf niwclear Fukushima yn Japan yn codi cwestiynau o’r newydd ynghylch diogelwch y diwydiant, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.

Mae Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear yn galw ar yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, i roi’r gorau i gynlluniau niwclear y Llywodraeth a chanolbwyntio’u hadnoddau ar ynni adnewyddadwy.

Ac mae ymgyrchwyr amgylcheddol yng Nghymru hefyd wedi cefnogi’r alwad am waharddiad.

Dywed Dylan Morgan o Langefni, llefarydd ar ran y mudiad PAWB, sy’n ymgyrchu yn erbyn ail orsaf niwclear ym Môn fod gwersi pwysig i’w dysgu o’r trychineb yn Japan.

“Dyw hi ddim yn bosib dweud na fyddai’r math beth yn digwydd yng Nghymru a Phrydain,” meddai wrth Golwg 360.  

 “Mae natur yn gallu dysgu gwersi i ni. Mae ’na daeargrynfeydd wedi bod yng Nghymru o’r blaen.  Yn 1984 roedd un daeargryn wedi mesur 5.4 ar y raddfa Richter ym Mhen Llŷn.

 “All neb ddweud i sicrwydd y byddai gorsaf niwclear yn ddiogel. Does dim modd rhagweld problemau.  Fe allai damwain neu ymosodiad terfysg ddigwydd ar unrhyw adeg.

 “Fe allai peiriannau mewn gorsaf niwclear methu fel unrhyw beiriant arall.”

 Ynni adnewyddadwy

Yr un oedd neges Paul Allen, o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth:

“Mae’r digwyddiadau trasig yr ydyn ni’n eu gweld yn Japan yn alwad i’r byd ddeffro,” meddai.

“Fe wyddon ni y gallwn ni gynhyrchu’r holl ynni y mae ei angen arnon ni o ddeunydd adnewyddadwy. Pam cymryd y risg diangen o adeiladu mwy o orsafoedd niwclear?”

 Mae Dylan Morgan yn credu y dylai Chris Huhne a llywodraeth Prydain ddilyn esiampl y Swistir, sydd wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau niwclear dros dro.

“Yn amlwg mae ’na bobol sydd wedi dewis anghofio am drychineb Chernobyl lle mae’r effeithiau poenus yn amlwg o hyd.  Ond mae gan y sefyllfa yn Japan y potensial i fod yn waeth na Chernobyl.

 “Mae’r ymateb rhyngwladol eisoes wedi bod yn ddiddorol gyda son am brotestiadau yn yr Almaen a Ffrainc.  Mae’r Swistir hefyd wedi dweud eu bod nhw’n gohirio eu cynlluniau niwclear dros dro.

“Y peth lleiaf gallwn ni wneud nawr yw gofyn i Chris Hunhe am ataliad llwyr o raglen niwclear Prydain.”