Elin Jones, cyfarwyddwr cyfathrebu Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cael gorchymyn i gael gwared ar hysbysebion ar strydoedd Caerdydd am nad oedden nhw wedi cael caniatâd y cyngor.
Roedd y Blaid wedi defnyddio ‘graffiti glân’ ar balmentydd y brifddinas dros y penwythnos i dynnu sylw at eu slogan etholiadol dros benwythnos y gêm ryngwladol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae’r dacteg farchnata’n gweithio trwy ddefnyddio stensil ar beiriannau ‘power washer’ i greu patrymau a geiriau ar y palmentydd.
Ond cadarnhaodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi derbyn amryw o gwynion ar y mater, a’u bod bellach wedi dweud wrth y Blaid fod yn rhaid iddyn nhw lanhau eu ‘graffiti glân’- neu wynebu dirwy.
“Dyw’r cyngor ddim wedi awdurdodi’r stensiliau hysbysebu yng nghanol y ddinas,” meddai llefarydd ar ran y cyngor. “Mae cais wedi ei wneud am ddileu’r stensiliau ar unwaith ar gost y rhai sy’n gyfrifol.”
‘Arloesol ac uchelgeisiol’
Dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu’r Blaid, y Gweinidog Amaeth Elin Jones, fod defnyddio ‘graffiti glân’ yn enghraifft o nodweddion arloesol ac uchelgeisiol eu hymgyrch.
“Dydyn ni ddim yn gwastraffu dim amser yn dilyn canlyniad llwyddiannus y refferendwm wrth ddatgan ein huchelgais am Gymru well,” meddai.
“Fe fydd defnyddio dulliau newydd i gyrraedd pobl yn helpu cael neges y Blaid am Gymru well i bawb yn yr wythnosau nesaf.”
Ond yn ôl y Blaid Geidwadol Gymreig, mae’r digwyddiad yn dangos pa mor anhrefnus yw Plaid Cymru.
Meddai llefarydd ar eu rhan:
“Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i leihau graffiti yn ein trefi a’n dinasoedd, mae’n amlwg bod y Blaid wedi bod wrthi’n gwneud peth eu hunain.
“Mae bron yn anhygoel y byddai plaid wleidyddol sydd ar hyn o bryd mewn llywodraeth yng Nghymru’n rhoi stensil o’i logo o gwmpas ein prifddinas – heb ganiatâd.
“Mae’n amlwg bod eu strategaeth ymgyrchu cyn waethed â’u record wrth geisio – a methu – rhedeg Cymru.”