Y Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson
Mae siopau yng Nghymru’n cael eu hatgoffa y bydd isafswm tâl gorfodol o 5 ceiniog am fagiau plastig yn dod i rym yn hwyrach eleni.

Mae pecyn gwybodaeth ar y ffordd i bob siop yng Nghymru’n rhoi manylion am y cynllun newydd – y cyntaf o’i fath ym Mhrydain.

Gobaith Llywodraeth y Cynulliad yw y bydd y tâl yn annog pobl i ail-ddefnyddio’r bagiau, a thrwy hynny helpu’r amgylchedd yn ogystal â’r economi.

Amcangyfrifir ei bod hi’n costio tua £1 miliwn y flwyddyn i’r trethdalwr glirio bagiau plastig.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, fod 23,540 o becynnau gwybodaeth wrthi’n cael eu hanfon i fusnesau.

“Yn 2009 fe aeth 273 o fagiau i bob cartref yng Nghymru ar gyfartaledd o’r prif archfarchnadoedd yn unig,” meddai.

“Er fy mod i’n gwybod na fydd lleihau’n defnydd o fagiau untro’n mynd i ddatrys ein holl broblemau amgylcheddol, mae’r tâl yn anfon neges bwysig ynghylch yr angen inni fyw bywydau mwy cynaliadwy.”

Fe ddaw’r tâl i rym ar Hydref 1, a dywed Llywodraeth y Cynulliad y gall siopau godi mwy na’r 5 ceiniog o isafswm os oes arnyn nhw eisiau.

“Nid gwneud i bob dalu am fagiau yw’r syniad – ond yn hytrach annog siopwyr i ddefnyddio’r bagiau sydd ganddyn nhw eisoes,” meddai.

“Does dim rhaid i neb dalu’r tâl – gellir ei osgoi’n hawdd os cofiwn fynd â bagiau gyda ni pan fyddwn ni’n siopa.”