Mae plaid wleidyddol yr English Democrats wedi galw unwaith eto am refferendwm yn Sir Fynwy ar ymuno â Lloegr.

Sir Fynwy oedd yr unig sir bleidleisiodd yn erbyn rhagor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn y refferendwm ddechrau’r mis.

Roedd y blaid wedi sefyll yn Etholiadau’r Cynulliad 2007, gan ennill 804 pleidlais yn Sir Fynwy. Bryd hynny roedden nhw wedi addo refferendwm ar y mater os oedden nhw’n ennill Aelod Cynulliad.

Addawodd y blaid wrth gylchgrawn Golwg ar ôl yr etholiad y bydden nhw’n parhau â’u hymgyrch i symud Sir Fynwy a Casnewydd yn ôl i Loegr er gwaethaf eu cefnogaeth isel.

Roedden nhw hefyd wedi sefyll yng Ngorllewin Casnewydd, gan ennill 634 o bleidleisiau, a Dwyrain Casnewydd, gan ennill 429.

Yn eu cynhadledd yn Middlesex heddiw galwodd yr English Democrats unwaith eto am bleidlais i gau pen y mwdwl ar y ddadl unwaith ac am byth.

“Dydyn ni ddim yn ceisio dweud wrth bobol beth i’w wneud, dim ond ymgyrchu am bleidlais i ddatrys y mater unwaith ac am byth,” meddai arweinydd y blaid, Robin Tilbrook, wrth y BBC.

Cafodd Sir Fynwy ei gynnwys yn swyddogol yn rhan o Gymru yn 1974.