Mae dyn gafodd ei losgi yn ddifrifol gan dân mewn gwesty wedi marw yn yr ysbyty, meddai’r heddlu.

Daethpwyd o hyd i’r dyn, sydd yn ei 30au, ar ôl tân yng ngwesty’r Gateway Express yng Nghasnewydd, ddydd Mercher.

Mae dyn 27 oed, gafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o ymosod, bellach wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae yn cael ei gwestiynu yn y ddalfa, meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i ddiffodd y fflamau, yng nghwrt blaen y gwesty ar Ffordd Cas-gwent, tua 10.10pm ddydd Mercher.

Roedd y dyn sydd bellach wedi marw yn gorwedd yn y cwrt blaen ac yn edrych fel pe bai yn cysgu neu’n anymwybodol.

Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heddiw er mwyn i’r heddlu gael gwybod sut y bu farw.

Mae’r heddlu yn dweud ei fod wedi dioddef anafiadau eraill oedd yn awgrymu bod rhywun wedi ymosod arno.

Roedd yn dod o ardal Casnewydd ac mae’r heddlu yn ceisio cysylltu â’i deulu.

Mae ymchwiliad yn parhau i beth achosodd y tân ac a oedd wedi ei gynnau yn fwriadol.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 7pm a 10.15pm, alw’r Heddlu ar 01633 838 111 neu alw Taclo’r Tacle ar 0800 555111.