Mae’r heddlu wedi arestio 15 o bobl ar amheuaeth o ddwyn cebl a metel o reilffordd.

Dywedodd yr heddlu fod yr arestiadau yn rhan o ymgyrch fawr i dorri lawr ar droseddau tebyg yn ne Cymru.

Roedd Heddlu Trafnidiaeth a Heddlu Gwent wedi galw â sawl cyfeiriad yng Nghasnewydd ddoe.

Yn ogystal ag offer rheilffordd, daeth yr Heddlu o hyd i nifer o eitemau eraill gan gynnwys chwe cherbyd, a phedwar beic cwad.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cofnodi 62 achos o ddwyn ceblau a metal o reilffyrdd y llynedd, o’i gymharu â 14 yn 2009.

Roedd troseddau o’r fath yn broblem gynyddol medden nhw.