Y tsunami yn Japan
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau fod tîm o achubwyr yn barod i fynd i Japan ar ôl y daeargryn a’r tsunami ddoe.
“Rydyn ni wedi derbyn cais, ac rydyn ni’n barod i fynd,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.
Dywedodd bod chwech o achubwyr o’r tîm wedi gwneud “yr un math o waith ar ôl y daeargryn yn Haiti’r flwyddyn ddiwethaf.”
“Rydyn ni’n aros am ragor o newyddion yn awr, ac i weld os a ddaw’r alwad i fynd,” meddai.
Dywedodd Pete Stevenson, cydlynydd Tîm Chwilio ac Achub Prydain, fod timau achub o bob cwr o’r wlad yn “barod i fynd i helpu’r bobl yn Japan”.
“Maen nhw’n parhau i asesu’r difrod ar hyn o bryd. Os ydyn nhw’n gofyn am gymorth, mae gyda ni dîm yn barod,” meddai.
Yn y cyfamser, mae Carwyn Jones wedi cydymdeimlo â llysgennad Japan yn Llundain, Keiichi Hayashi.
Mewn llythyr swyddogol, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod cysylltiadau cryf rhwng y ddwy wlad.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau ni gyda’r bobl sydd ynghanol y trychineb ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw,” meddai.