Leighton Andrews
Mae un o weinidogion Llywodraeth y Cynulliad wedi ymosod ar Blaid Cymru, wrth i’r glymblaid ym Mae Caerdydd baratoi i chwalu cyn Etholiadau’r Cynulliad.

Dyma’r ail waith i aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur ymosod yn agored ar eu partneriaid Plaid Cymru’r wythnos yma.

Daw’r ymosodiad diweddaraf llai nag 24 awr ers i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, fynnu bod y berthynas rhwng y ddwy blaid yn un da.

Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, oedd y cyntaf i leisio’i farn gan ddweud fod arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn aelod “aneffeithiol” o gabinet y llywodraeth.

A heddiw fe ymosododd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ar Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Nerys Evans.

Daeth sylwadau Leighton Andrews ar ôl i Nerys Evans grybwyll ar lwyfan etholiad ei bod hi o’r farn y dylai Cymru gael y pŵer i osod cyflogau athrawon.

Roedd hi wedi beirniadu’r Blaid Lafur yn hallt dros y dyddiau diwethaf, gan ddweud eu bod nhw wedi caniatáu i safon addysg yng Nghymru lithro y tu ôl i weddill Prydain.

Dywedodd Leighton Andrews fod y syniad yn un “ofnadwy” ac y byddai athrawon ar eu colled yn ariannol o ganlyniad i’r newid.

“Mae Llafur Cymru wedi cefnogi athrawon sy’n gweithio’n galed erioed,” meddai.

“Fe fyddai syniad Plaid Cymru yn arwain at dal is ac amodau gwaith gwaeth i athrawon Cymru.

“Mae hwn yn gyfaddefiad arswydus gan Blaid Cymru, sy’n dangos nad ydyn nhw’n cydweld ag athrawon Cymru o gwbl.”