Derwyddon Dr Gonzo
Mae aelodau un o fandiau amlycaf y sin gerddoriaeth Cymraeg, Derwyddon Dr Gonzo, wedi penderfynu dod a’u band i ben.

Cadarnhaodd aelod o’r band wrth Golwg 360 y bydd eu gig olaf yn cael ei gynnal ar 26 Mawrth yng Nghlwb Ifor Bach.

“Rydyn ni wedi ffeindio allan ein bod ni’n fand ofnadwy o ddiog. Doedden ni ddim yn ysgrifennu digon o ganeuon,” meddai Ifan Tomos, sy’n canu a chwarae gitâr yn y band, wrth Golwg360.

“Roedden ni weld meddwl cymryd brêc – ond rydan ni wedi trio hynny o’r blaen a wnaeth o ddim gweithio,” meddai’r cerddor o Lanrug.

Dywedodd fod aelodau’r  band yn “ffrindiau gorau ers Ysgol Brynrefail” ac y byddai’n sicr “yn gweld eisiau’r criw”.

“Rydan ni gyd mewn llefydd gwahanol yng Nghymru, ac yn ein bywydau,” meddai Ifan Tomos.

Fe fydd y canwr yn dechrau astudio cwrs cynllunio a dylunio ym Mhrifysgol Huddersfield fis Medi, ac mae hynny wedi ei wneud yn anos cadw mewn cysylltiad, meddai.

“Dw i wedi meddwl dechrau prosiect arall dros yr Haf, neu hyd yn oed ddechrau rhywbeth yn Lloegr, ond fe gawn ni weld sut mae pethau’n mynd.”

Y gorau

Mae Derwyddon Dr Gonzo wedi perfformio ar hyd a lled Cymru mewn gwyliau gwahanol gan gynnwys Wakestock, Sŵn, Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Eisteddfod Genedlaethol ac wedi recordio sawl cryno ddisg ar label Copa.

Dywedodd Ifan Tomos mai uchafbwynt y band oedd bod yn “brif grŵp Maes B y Bala”.

“Rydyn ni hefyd wedi chwarae ym mhob un o wyliau Gardd Goll ers y dechrau. Mae’n ŵyl wych, o ran yr awyrgylch a phopeth arall,” meddai.

Ond dywedodd ei fod yn teimlo fod y cyfleoedd i fandiau Cymraeg gigio wedi prinhau dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae yna lai o bobol yn trefnu gigs,” meddai.

“Does dim llawer o neb yn mynd i weld bandiau newydd Cymraeg, chwaith. Does yna ddim digon o gefnogaeth.

“Mae llwyth yn mynd i weld Sibrydion, ond mae’n anoddach i fandiau newydd am nad oes cymaint o ddiddordeb.”