Mae Pennaeth Ysgol San Siôr yn Llandudno wedi galw ar y cyngor i weithredu ar ôl i eifr ddinistrio tŷ gwydr a choed afalau disgyblion yr ysgol.

Roedd plant Ysgol San Siôr wedi adeiladu’r tŷ gwydr ar safle’r ysgol fis Medi diwethaf allan o 1,200 o boteli Coca Cola ac wedi gorffen y prosiect yn ystod y Nadolig.

“Pan es i yno i edrych ar y tŷ gwydr – roedd y geifr wedi neidio ar do’r adeilad ac wedi malu popeth ac roedd baw geifr ym mhob man,” meddai Ian Keith Jones, sydd wedi bod yn Bennaeth Ysgol San Siôr ers 16 o flynyddoedd, wrth Golwg360.

“Roeddwn i hefyd wedi mynd i fwydo cameleonod yr ysgol dros y penwythnos, ac roedd geifr ar gae’r ysgol yn bwyta coed afalau, per ac eirin prin.

“Nid coed afalau £4. 99 yw’r rhain. Ond coed o rywogaethau prin iawn gan gynnwys Afalau Enlli a llawer o rywogaethau eraill.

Dywedodd fod geifr wedi bwyta’r coed i gyd – gan gynnwys “y labeli plastig” oedd yn nodi enw’r goeden.

“Doedd y geifr ddim yn broblem fawr i ddechrau – ond mae pethau wedi gwaethygu yn ystod y pum mlynedd diwethaf,” meddai.

Ail-blannu

“Yr adeg yma o’r flwyddyn mae’r geifr yn dod i lawr o’r Gogarth am nad oes digon o fwyd yno, mae’n siŵr,” meddai. “Dw i’n meddwl bod yna tua 100 ohonynt ar hyn o bryd.

“Mae pobol yn teimlo’n angerddol o’u plaid nhw. Dydw i ddim eisiau eu gweld nhw yn mynd- ond rydw i eisiau gweld llai ohonyn nhw,” meddai cyn ychwanegu bod technegau “atal cenhedlu” yn un opsiwn posib i’r cyngor ei ystyried.

“Mae plant yn gweld mai geifr ydyn nhw a ddim fandaliaid – felly dydyn nhw ddim yn flin,” dywedodd.

Ychwanegodd y pennaeth ei fod yn bwriadu ail blannu’r coed. “Rydyn ni am brynu coed mwy y tro hyn – dim ond pedair troedfedd o daldra oedd y rhai diwethaf,” meddai.

Cyngor Sir Conwy…

Dywedodd Cyngor Sir Conwy nad eu cyfrifoldeb nhw oedd edrych ar ôl geifr y Gogarth, ond eu bod nhw wedi ceisio ail-leoli’r praidd dipyn wrth dipyn.

“Mae’r geifr ar y Gogarth wedi crwydro yn wyllt ers dros 100 mlynedd, ac yn wreiddiol roeddent yn anrheg i’r Arglwydd Mostyn gan y Frenhines Victoria,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy.

“Er eu bod ar un adeg yn eiddo i’r Arglwydd Mostyn, mae’r geifr wedi dychwelyd i fyw yn wyllt, ac felly erbyn hyn maent yn cael eu hystyried yn anifeiliaid gwyllt.

“Does gen neb gyfrifoldeb cyfreithiol drostynt.

“Mae sawl sefydliad yn ymdrin â’r geifr o ran cadwraeth, perchnogaeth tir neu les anifeiliaid. Ymysg y sefydliadau hyn mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Mostyn Estates Ltd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCC), a’r RSPCA.

“Wrth i boblogaeth y braidd gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r problemau hefyd wedi gwaethygu ac rydyn ni’n cydnabod fod angen rhyw fath o reolaeth.

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penderfynu lleihau maint y braidd dros y tymor hir. Gwneir hyn trwy gyfuniad o ail-leoli grwpiau o anifeiliaid ac atal cenhedlu. Er nad yw hwn yn datrys y broblem o leihau nifer y geifr ar y Gogarth yn syth, mae wedi lleihau’r boblogaeth, a bydd hyn o fudd yn y tymor hir.

“Ym Mehefin y llynedd ail-leolwyd 31 o eifr i safleoedd addas mewn mannau eraill. Bwriedir hefyd lleihau niferoedd y geifr ymhellach ar y Gogarth yr haf hwn a bydd mwy o frechiadau atal cenhedlu’n cael eu rhoi.

“Tra bydd lleihau nifer y geifr ar y Gogarth yn lliniaru’r broblem o dresmasu ar eiddo cyfagos, ni fydd yn cael gwared yn llwyr ar y broblem hon, a chyfrifoldeb perchenogion yr eiddo fydd atal y geifr rhag tresmasu.”