Fferm wynt
Mae ymgyrchwyr yn anhapus â chynllun i adeiladu fferm wynt ger safle brwydr Owain Glyndŵr ar Fynydd Hyddgen.
Dywedodd un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, sy’n gwrthwynebu’r cynllun, wrth Golwg 360 fod y “tirlun yn bwysicach na thrydan”.
Mae Scottish & Southern Energy yn bwriadu adeiladu gorsaf bŵer wynt gyda 64 o dyrbinau 481 troedfedd o uchder yn Nant y Moch ger Mynydd Pumlumon.
Fe fydd y cynllun yn cael ei ystyried gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC) ym mis Mai.
Byddai safle’r fferm wynt fydd yn croesi’r ffin rhwng Ceredigion a Phowys yn weladwy o Fynydd Hyddgen, maes brwydr hanesyddol Glyndŵr dros fyddin Lloegr yn 1401.
Protest
Mae dros 200 o ymgyrchwyr eisoes wedi ymgyrchu yn erbyn y cynllun mewn protest yn ar Fryniau Rhyddion ar 6 Mawrth.
Dywedodd John Morgan, ymddiriedolwr Cymdeithas Mynyddoedd Cambria fod y grŵp hefyd yn bwriadu treulio 21 Mawrth yn tynnu sylw pobol Aberystwyth at y cynllun.
“R’yn ni’n bwriadu agor siop a chroesawu pobl sydd eisiau mwy o wybodaeth am y cynllun i mewn, iddyn nhw gael penderfynu a ydyn nhw’n gefnogol ai peidio.
“Dyw dinistrio’r tirlun ger Pumlumon ddim gwerth 50-150 megawatt o drydan. Beth yw gwerth difetha tirlun Mynydd Hyddgyn am 50 megawatt?”
Dywedodd mai bwriad y gymdeithas yn yr hir dymor oedd ennill statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i’r ardal.
‘Beio’r Llywodraeth’
“Dydw i ddim yn beio’r datblygwyr , yr oll y maen nhw mo’yn ei wneud yw elwa o’r datblygiad,” meddai.
“Ond, dw i yn beio Llywodraeth Cynulliad Cymru am ganiatáu rhoi tyrbinau gwynt mewn ardal hanesyddol fel hyn.”
Ychwanegodd y byddai’n rhaid adeiladu ffordd newydd er mwyn cario’r tyrbinau gwynt i’w gosod ar y mynydd, ac y byddai’r lorïau enfawr yn achosi problemau i’r traffig hefyd.
“Rydyn ni wedi cael digon o gefnogaeth gan bobl – ond rydw i’n siomedig iawn ‘da’r Cynulliad,” meddai.