Mochyn daear
Mae ymgyrch i foicotio cynnyrch llaeth o Gymru wedi denu dros fil o gefnogwyr ar Facebook.

Mae’r ymgyrch gan fudiad anifeiliaid Viva yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ddifa moch daear er mwyn rheoli TB mewn gwartheg.

Mae’r ymgyrch ‘Boycott Welsh Dairy Products – Save Badgers’ eisoes wedi denu 1,093 o gefnogwyr.

Cyhoeddodd y Gweinidog Amaeth, Elin Jones, ddoe y byddai’r Cynulliad yn bwrw ymlaen â chynllun newydd i ddifa moch daear, ar ôl i’r cynllun gwreiddiol gael ei atal gan y Llys Apêl y llynedd.

Nod difa’r moch daear yw atal lledaeniad TB mewn gwartheg, ond mae ymgyrchwyr yn dadlau nad oes prawf digonol y bydd yn gweithio.

Mae’r ymgyrch ar Facebook yn bwriadu “dyblu ein hymdrechion i annog boicot enfawr o gynnyrch llaeth Cymreig, gan fod y diwydiant llaeth wrth galon (du iawn) y penderfyniad hurt hwn”.

Rhannu gwrthwynebwyr

Ond does dim cytundeb ai boicotio cynnyrch yw’r ffordd ymlaen ymysg ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau yng Nghymru.

Dywedodd y Blaid Werdd ddoe fod cynllun y Cynulliad fel “ffolineb llwyr”.

Ond maen nhw wedi condemnio boicot Viva gan ddweud fod ffermwyr Cymru “yn gorfod gweithio’n galed i gadw dau ben llinyn ynghyd”.

“Llywodraeth y Cynulliad wnaeth y penderfyniad a nhw sy’n gyfrifol amdani, nid ffermwyr Cymru,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

Mae’r Blaid Werdd yn dweud y dylai’r Cynulliad yn brechu moch daear yn hytrach na’u lladd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud na fyddai brechu yn effeithiol am nad yw’n gallu gwaredu’r clefyd os yw’r moch daear eisoes wedi eu heintio.

‘Gwanllyd iawn’

Mae datganiad Viva yn “ymateb gwanllyd iawn” i’r cynllun difa moch daear, meddai llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn ôl Brian Walters, fe fyddai’r beicot yn niweidiol i’r sector amaethyddol sy’n “cyflogi miloedd o bobol ar draws Cymru a Lloegr”.

Mae rhai o ymgyrchwyr Aviva wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu boicotio llaeth yn gyffredinol, am nad ydyn nhw’n gwybod o le mae o’n dod.

Dywedodd Brian Walters y byddai hynny yn gallu gwneud drwg i iechyd pobol, yn enwedig plant.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi methu’r pwynt, meddai. ”Nid cael gwared ar y moch daear y’n ni mo’yn yn y pen draw – ond cael gwared ar y clwy’.”

Her gyfreithiol arall?

Mae’r Ymddiriedolaeth Moch Daear, a fu’n gyfrifol am fynd â’r Cynulliad i’r Llys er mwyn atal y cynllun gwreiddiol, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu gwneud yr un fath eto.

“Bydd yr Ymddiriedolaeth yn astudio’r dystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno i’r Gweinidog yn fanwl, ac yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r penderfyniad diweddaraf,” meddai llefarydd ar eu rhan.

Ond dywedodd y Gweinidog Amaeth fod y cynllun newydd yn mynd i’r afael â nifer o ‘r problemau a godwyd gan y Llys Apêl.

“Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn llawn,” meddai, “rydw i wedi penderfynu rhoi deddfwriaeth ar waith a fydd yn golygu y gall y llywodraeth arwain y gwaith o ddifa moch daear.”