Mae un o gynrychiolwyr cwmnïau teledu annibynnol Cymru wedi cyhuddo S4C o geisio “gwarchod eu hunain” wrth drafod dyfodol y sianel.

Fe fydd Iestyn Garlick, cadeirydd Teledwyr Annibynol Cymru yn cwrdd â swyddogion S4C yng Nghaerdydd yfory i drafod dogfen ar gyfer dyfodol y sianel ar ôl 2012.

Mae pwyslais y ddogfen ar ddatblygu gwasanaethau S4C ar y we ac am wneud cynnig am wasanaeth teledu lleol o dan lywodraeth San Steffan.

“Dw i’n credu bod cwmnïau unigol ychydig yn bryderus,” meddai Iestyn Garlick, cadeirydd Teledwyr Annibynol Cymru.

“Mae son am y we a sefydlu S4C.com ond fy gut feeling i yw bod S4C yn gwarchod eu hunain ac yn creu gwaith iddi ei hunan drwy son am deledu rhyngweithiol a’r holl ystrydebau eraill, ond ddim am wneud toriadau.

“Ond os yw’r sector yn torri nôl rhaid i S4C dorri hefyd.”

Yn ôl Iestyn Garlick fe fydd aelodau gweithgor TAC yn trafod yn bositif wrth gwrdd â swyddogion S4C yfory, ac maen nhw’n derbyn bod yn rhaid gwneud toriadau yn y gwariant.

“Mae £65 miliwn yn dal yn ffigwr sylweddol. Gallwch wneud nifer fawr o raglenni efo’r arian er ella llai o raglenni.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth