Dolgellau
Mi fydd gŵyl werin newydd yn cael ei chynnal ar lannau’r Wnion yn Nolgellau yn yr haf.

Ond fydd hi’n “ddim byd” tebyg i Sesiwn Fawr Dolgellau, yr ŵyl werin fawr a gafodd ei chynnal yn y dre rhwng 1992 a 2008.

Oherwydd anawsterau a gwyliau ofnadwy glawog, cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei gadael â dyledion o bron i £60,000.

“Gŵyl fechan, deuluol a chymunedol,” yw nod yr ŵyl newydd yn ôl Ywain Myfyr, un o’r trefnwyr, sy’n dweud na fydd ganddi  “ddim byd i wneud efo’r Sesiwn Fawr”.

“Mi fydd yna gwmni newydd yn cael ei sefydlu. Rydan ni’n gobeithio y bydd yna elfen o’r cwmni yn rhoi cymorth gobeithio i dalu hynny o ddyled sydd gan y Sesiwn Fawr ar ôl hefyd. Rydan ni’n edrych ar gychwyn rhywbeth hollol newydd.”

Mae dyledion y Sesiwn wedi mwy na haneru, meddai. “Mae hi wedi mynd yn dda iawn a dweud y gwir. Fyswn i’n dweud ein bod ni’n hyderus falle o’u clirio nhw cyn y Nadolig, gobeithio. Mae’n rhaid i ni.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth