Bristol City 3 Caerdydd 0

Camgymeriadau yn y cefn sydd wedi arwain at gwymp Caerdydd, meddai’r rheolwr, Dave Jones – a’r ateb yw gwaith caled.

Ond fe gyhoeddodd y clwb hefyd eu bod wedi arwyddo blaenwr newydd – Jon Parkin o Preston North End. Mae’n chwaraewr targed tebyg i Jay Bothroyd, sydd wedi ei anafu ar hyn o bryd. Y gred yw bod y pris tua £100,000.

Fe ddywedodd Dave Jones ei fod yn chwilio am chwaraewyr ym mhob rhan o’r cae yn ystod ffenest drosglwyddo mis Ionawr, gan fynnu bod rhaid cryfhau’r garfan trwyddi draw.

Roedd yn ymateb i’r siom o golli gêm gynta’r flwyddyn o 3-0 yn erbyn Bristol City, un o’r timau tua gwaelod y Bencampwriaeth.

Ar ôl cweir o 4-1 yn erbyn Watford yng ngêm olaf 2010, mae’r Adar Gleision wedi cwympo i’r pumed lle a dim ond dwy fuddugoliaeth y maen nhw wedi eu cael yn eu deg gêm ddiwetha’.

‘Deufis digalon’

“Mae wedi bod yn ddeufis digalon,” meddai Dave Jones. “Dyden ni ddim wedi gwneud yr hyn y bydden ni’n ei ddisgwyl.

“Mae penderfyniadau gwael yn y cefn yn costio’n ddrud i ni. Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ac ar frys.”

Yn erbyn Bristol City, roedd y rheolwr yn beirniadu’i amddiffynwyr am wneud yr un camgymeriad ddwywaith o fewn llai na hanner awr gan ildio dwy gôl.

Fe fydd gêm nesa’r clwb yn un allweddol – nos Fawrth yn erbyn Leeds United sydd bellach yn bedwerydd. Fe fydd Parkin ar gael ar gyfer honno.

Llun: Dave Jones