Mae papur newydd yn honni y gallai’r chwaraewr pêl-droed, Gareth Bale, ddod yn achos prawf yn y frwydr rhwng Cymru a’r awdurdodau Olympaidd yn ngwledydd Prydain.

Yn ôl yr Independent on Sunday, mae’r Cymro 21 oed o Spurs yn awyddus i chwarae i dîm Prydain Fawr yng Ngêmau Olympaidd 2012, er bod FA Cymru yn erbyn i’w chwaraewyr gymryd rhan.

Y disgwyl yw mai rheolwr Spurs, Harry Redknapp, fydd rheolwr y tîm ac mae Cadeirydd Cymdeithas Olympaidd Prydain, y cyn-weinidog Torïaidd Colin Moynihan, yn dweud ei fod yn cefnogi Bale.

Ofni colli statwsMae cymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwrthod cymryd rhan mewn tîm Prydeinig, rhag ofn i hynny effeithio ar eu statws rhyngwladol.

Maen nhw’n pryderu y byddai hynny’n rhoi esgus i drefnwyr pêl-droed y byd, FIFA, fynnu fod holl wledydd Prydain yn chwarae gyda’i gilydd mewn cystadlaethau eraill hefyd – er bod y Llywydd Sepp Blatter wedi rhoi addewid ysgrifenedig fel arall.

Yn ôl yr Independent on Sunday, fe fyddai Colin Moynihan yn fodlon cefnog cais gan Bale gerbron y Cyngor Cymodi mewn Chwaraeon.

Y broblem i Gymru, yn ôl yr IoS, fyddai penderfynu pa un ai i ddisgyblu Bale ai peidio pe bai’n mynd ymlaen â’i achos – ef yw eu chwaraewr gorau ar hyn o bryd ac un o’r ychydig rai a fyddai’n ddigon da i ennill ei le mewn tîm Prydeinig.