Roedd cefnogwyr yn feirniadol o reolwr tros dro Cymru ar ôl i’r tîm golli eu gêm gynta’ o dan ei arweiniad.

Fel gyda’r sylwebwyr proffesiynol, doedden nhw ddim yn deall pam fod Brian Flynn wedi chwarae gyda dim ond un ymosodwr go iawn a rhoi eraill, fel Ashley Williams, mewn safleoedd dieithr.

Dyma gasgliad o sylwadau sydyn yn y dafarn wedi’r gêm …

“Dyle Church fod wedi dechrau yn y tu blaen gyda Morison” – Sion Lewis
“Time wasting da Bwlgaria ar y diwedd” – Rhys Davies
“Dim digon mentrus” – Brynach Higginson
“Nid chwaraewr canol cael amddiffynnol yw Ashley Williams”- Caio Higginson
“Siomedig da’r attendance, a bring back Savage” – Owain Phillips.

Llun: Brian Flynn ar y llinell neithiwr (Gwifren PA)