Matthew Scully Hicks y tu allan i Lys y Goron Caerdydd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ferch fabwysiedig, wedi gwadu rhegi arni.

Mae Matthew Scully-Hicks o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o ladd Elsie Scully-Hicks trwy achosi cyfres o anafiadau difrifol iddi ym mis Mai 2016 – pan oedd hi yn 18 mis oed.

Roedd y plentyn wedi cael ei mabwysiadu’n swyddogol gan Matthew Scully-Hicks a’i ŵr Craig Scully-Hicks, bythefnos cyn ei marwolaeth.

Eisoes mae cyn-gymdogion wedi cyflwyno tystiolaeth i’r llys sy’n awgrymu yr oedd y diffynnydd yn rhegi a gweiddi at y plentyn pan oedd hi’n crio.

Wrth gyflwyno tystiolaeth yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher (Hydref 25) dywedodd Matthew Scully-Hicks: “Byddwn i byth yn rhegi at blentyn, fyddwn i ddim yn dweud hynna wrth fy mhlentyn i.”

Anafiadau

Cafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty ar Fai 25, wedi i’r diffynnydd alw’r gwasanaethau brys gan honni ei fod wedi ei chanfod mewn cyflwr gwael.

Gwnaeth profion ysbyty ddarganfod bod y ferch fach wedi dioddef o waedlif ar bob ochr o’i phenglog.

Roedd  hefyd wedi torri nifer o esgyrn, gan gynnwys ei hasennau, asgwrn yn ei choes a’i phenglog.

Mae’r achos yn parhau.