Siambr yr Arglwyddi (Trwydded Llywodraeth Agored f3.0)
Mae Arglwydd o Gymru ymhlith 34 sydd wedi hawlio costau er na wnaethon nhw siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Arglwydd Davies o Goety – y cyn-arweinydd undeb Garfield Davies – tua gwaelod y rhestr ond fe hawliodd £792 yn ystod 2016-17 heb siarad na phleidleisio na gofyn yr un cwestiwn na bod yn rhan o bwyllgor.

Rhyngddyn nhw, roedd y 34 wedi hawlio mwy na £488,000 – er fod rhai wedi pleidleisio doedd dim un ohonyn nhw wedi siarad, gofyn cwestiwn nac eistedd ar bwyllgor.

Eisiau newid sylfaenol

Wrth gyhoeddi’r ffigurau, mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau wedi galw am newid sylfaenol, gyda llai o arglwyddi a’r rheiny wedi eu hethol trwy bleidleisio cyfrannol, PR.

Yr wythnos hon, mae disgwyl adroddiad pwyllgor ar ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi ac mae’r Gymdeithas wedi tynnu sylw’n fwriadol at yr ystadegau.

Mae’r rheny’n dangos bod:

• 36% o’r arglwyddi wedi siarad llai na phum gwaith ond wedi hawlio cyfanswm o fwy na £4 miliwn o gostau.

• Deg arglwydd yn gyfrifol am fwy nag 20% o’r holl areithiau

• Cyfanswm o 115 heb siarad o gwbl yn ystod sesiwn 2016-17.

‘Blas cas
“Mae’r ffaith fod bron un o bob deg arglwydd yn methu â chyfrannu at waith y Tŷ yn ddigon drwg ond mae’n creu blas drwg pan fydd carfan sylweddol o’r rheiny yn hawlio mwy o gostau nag y mae gweithwyr ar gyfartaledd yn ei gael mewn blwyddyn,” meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio, Darren Hughes.

“Mae pleidleiswyr wedi cael llond bol ar un sgandal ar ôl y llall. Rhaid i ni gael diwygio go iawn, nid ffildan ar yr ymylon.”