Eglwys Sant Cybi, Gybi Sant, Caergybi (Llun: CC ASA 3.0)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i achos o ladrad yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi.

Yn ôl Les Ellis, un o swyddogion yr heddlu yng Nghaergybi, mi wnaeth y lladron dorri i mewn i’r eglwys rhywbryd rhwng 2yp dydd Gwener (Hydref 20) a 8.30yb dydd Sul (Hydref 22).

Mae’n esbonio iddyn nhw “wthio eu ffordd i mewn i’r eglwys drwy ffenestr bwa cerrig bychan ac unwaith yr oeddent y tu fewn mi wnaethon nhw ddwyn bocs arian ac arian.

“Hoffem glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw ymddygiad neu weithgarwch amheus yn yr ardal,” meddai.

Mae wedi rhybuddio cymunedau a busnesau i barhau’n wyliadwrus ac i roi gwybod o unrhyw ddigwyddiadau amheus.

 

Mae’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu gysylltu drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC1716 0426.